Uh oh, you are using an old web browser that we no longer support. Some of this website's features may not work correctly because of this. Learn about updating to a more modern browser here.

Skip To Content

TEULUOEDD MEWN ‘LOCKDOWN’: ADRODDIAD GAN ACHUB Y PLANT YN NODI BOD 56% O RIENI YN POENI AM IECHYD MEDDWL EU PLANT 

 “Drwy gydol y cyfnod heriol hwn i deuluoedd, rydym yma i gynnig cefnogaeth drwy ganolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel ac yn iach a gwneud yn siwr eu bod yn gallu parhau i ddysgu, doed a ddêl."

 
 
  • Mae arolwg cyntaf o’i fath yn datgelu pryderon plant am Coronafirws, gyda 58% yn ofni y bydd aelod o’u teulu yn mynd yn sâl ac 1 o bob 4 yn poeni am brinder bwyd.
  • Mae teuluoedd dan bwysau ariannol dybryd gyda dros hanner yn poeni am gyflenwadau bwyd, 17% wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith a 12% wedi eu gorfodi i gymryd amser o’r gwaith yn ddi-dâl er mwyn gallu gofalu am eu plant
  • Cyflwynir yr ymwchil hwn i gyd-fynd ag Apêl Coronafirws Achub y Plant i gefnogi teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19

 

Wrth i aelwydydd yn y DU brofi bron i bythefnos o fyw mewn ‘lockdown’ mae ymchwil newydd gan Achub y Plant wedi canfod fod iechyd a lles feddyliol plant yn bryder mawr i nifer o rieni.

Mae mwy na hanner (56%) yn poeni am iechyd meddwl eu plant yn ystod cyfnod pan fo’r ysgolion wedi cau ac unrhyw gysylltiad gyda theulu neu ffrindiau wedi ei gyfyngu oherwydd ymbellhau cymdeithasol.

Mewn arolwg cyntaf o’i fath mynegodd plant rhwng 6 ac 18 mlwydd oed eu bod yn poeni ynghylch aelod o’u teulu yn mynd yn sâl (58%) a’r prif bryderon eraill oedd y byddai bwyd yn rhedeg allan (25%), y ffaith nad oeddynt yn gallu gweld ffrindiau (46%) a chadw i fyny gyda gwaith ysgol (20%).  Roedd 1 o bob 5 o blant hefyd yn poeni am y dyfodol gyda’r ysgolion wedi cau a dim dyddiad pendant pryd y byddent yn ail agor.

Dywedodd 85% o’r plant a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn teimlo’n ddigalon nad oedd modd iddynt weld eu ffrindiau a’u perthnasau yn y dyfodol agos oherwydd Coronafirws.

Mae’r arolwg yn rhoi darlun byw o deuluoedd yn byw dan bwysau ariannol dybryd. Pan ofynnwyd beth oedd eu prif bryder wrth ofalu am eu teuluoedd yn ymarferol, nododd bron i hanner y rhieni (48%) mai gwneud yn siwr fod digon o fwyd ar gael oedd hynny; dywedodd 44% eu bod yn poeni am allu helpu eu plant gyda’u gwaith ysgol a 38% eu bod yn pryderu am arian. Ymhlith y pryderon eraill roedd 1 o bob 5 yn poeni am sicrwydd swyddi (20%) a sut i fynd ati i egluro’r sefyllfa a thrafod Coronafirws gyda’u plentyn (19%).

Mae’r ffaith fod yr ysgolion wedi cau hefyd yn golygu fod rheini yn gorfod cydbwyso gofalu am eu plant gyda gweithio o gartref a cheisio addysgu. Mae chwarter o rieni  (25%) yn jyglo gweithio o gartref, tra bod 17% wedi lleihau eu horiau gwaith er mwyn gallu gofalu am eu plant. Mae 12% o rieni wedi eu gorfodi i gymryd seibiant o’r gwaith yn ddi-dâl er mwyn gallu gofalu am eu plant, tra bod 1 mewn 10 wedi gorfod gadael eu swyddi yn gyfan gwbl.

Cyhoeddir yr arolwg i gyd-fynd gyda lansio apêl codi arian gan Achub y Plant i helpu plant bregus a’u teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan Coronafirws, yn ogystal â chyfres o gynlluniau ar draws y DU i gefnogi y plant sydd mewn mwyaf o angen yn ystod y cyfnod yma o dryblith cymdeithasol ac economaidd.

Mae’r elusen i blant wedi cyhoeddi rhaglen grantiau argyfwng newydd yn y DU i helpu ymateb i Covid-19. Nod y rhaglen yw sicrhau fod teuluoedd yn gallu cael adnoddau dysgu ar gyfer y blynyddoedd cynnar i’w helpu gydag addysgu o’r cartref, yn ogystal ag hanfodion i’r cartref fel byrddau a gwelyau i helpu’r plant barhau i allu dysgu a ffynnu. Bydd y rhaglen hefyd yn cefnogi teuluoedd bregus gyda rhoddion a thalebau bwyd i’w helpu i gadw dau ben llinyn ynghyd.

Mae’r elusen hefyd wedi paratoi hwb gydag adnoddau addysgu o’r enw Y Den sy’n cynnwys amrywiaeth o syniadau creadigol ar gyfer pethau i’w gwneud gyda’r plant dros y cyfnod ansicr hwn.  Bydd ‘Y Den’ yn cynnwys syniadau ar sut i liniaru pryderon plant, syniadau creadigol ar sut i gadw’r corff yn ystwyth ac iach a chyfle i rannu straeon positif ac o hapusrwydd gyda phlant ar draws y byd.

Meddai Eurgain Haf, sy’n Uwch Reolwr y Cyfryngau i’r elusen yng Nghymru ac sydd hefyd yn fam i ddau o blant bach, saith a phedair oed: “Mae bywyd normal ymhell o fod yn normal i blant o bob oed ar hyn o bryd. Ac wrth i ni fel teulu baratoi ar gyfer ein trydydd wythnos o ymbellhau yn gymdeithasol mae’r cwestiynau yn dechrau pentyrru; pa liw yw’r firws? Wyt ti a dad yn mynd i fod yn sâl? Pryd allwn ni weld ein ffrindiau a Nain a Taid nesa’? Pryd fydd yr ysgol yn ail-ddechrau? A chithau yn cael eich rhwygo rhwng faint i ddweud a faint i ddal yn ôl, yn dibynnu ar eu dirnadaeth o bethau. Fel rhieni rydym yn gwneud ein gorau i gynnig cysur a thawelwch meddwl iddyn nhw, yn ceisio monitro beth maen nhw yn ei weld ar y cyfryngau, yn edrych allan am arwyddion o unrhyw ofid neu newid mewn ymddygiad a cheisio cadw at rhyw fath o rŵtin.

“Ac mae yna bethau positif hefyd. Wedi ein hysbrydoli gan blant yn Yr Eidal rydym wedi bod yn peintio lluniau o’r enfys i’w rhoi yn y ffenest, yn symbol o obaith y daw haul wedi’r glaw. Rydym yn mwynhau treulio amser gyda’n gilydd fel teulu, yn siarad ac yn chwerthin ac yn chwarae gemau ac yn rhannu syniadau o’r hyn rydym yn edrych ymlaen at gael eu gwneud unwaith fydd y coronafirws wedi cilio.”

Mae Deb Barry yn gweithio fel Uwch Ymgynghorydd Dyngarol i Achub y Plant ac yn hanu o Gaerffili ac mae wedi teithio’r byd yn helpu plant i ddelio gydag argyfyngau mewn ardaloedd o wrthryfel, yn dilyn seiclonau a chorwyntoedd ac yn ddiweddar y llifogydd a ddinistriodd rhai o gymunedau de Cymru.

Ychwanegodd: “Drwy gydol y cyfnod heriol hwn i deuluoedd, rydym yma i gynnig cefnogaeth drwy ganolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel ac yn iach a gwneud yn siwr eu bod yn gallu parhau i ddysgu, doed a ddêl.

“Hyd yn oed cyn i ni ddechrau gweld effaith Coronafirws ar deuluoedd roedd yna bedair miliwn o blant yn byw mewn tlodi yn y DU, gyda’r ffigwr hwn yn 200,000 yma yng Nghymru sef un plentyn ym mhob 3. Allwn ni ddim caniatau i’r ffigwr yma godi. Drwy ein rhaglen argyfwng byddwn yn cyflenwi y rhai sydd mewn mwyaf o angen gyda thalebau bwyd a grantiau ariannol i geisio sicrhau na fydd mwy o blant yn syrthio o dan y llinell dlodi yn ystod cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen.

“Mae Achub y Plant wedi helpu plant i oroesi ac i ffynnu yn ystod cyfnodau o argyfwng ers dros ganrif. Heddiw, rydym yn galw ar haelioni y cyhoedd yng Nghymru i gyfrannu tuat at yr apêl argyfwng ac i’n cefnogi i helpu plant yn y DU ac yn fyd-eang a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y Coronafirws. Gyda’n gilydd gallwn helpu teuluoedd drwy hyn.”

Am fwy o wybodaeth ac i gyfrannu tuag at Apêl Coronafirws Achub y Plant ewch i: www.savethechildren.org.uk

I gael mynediad i’r Den ewch i: https://www.savethechildren.org.uk/the-den

Diwedd

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad cysylltwch gydag Eurgain Haf, Uwch Reolwr y Cyfryngau Achub y Plant ar 07900214959 neu e.haf@savethechildren.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

The research for Save the Children was carried out online by Opinion Matters between 24/ 03/ 2020 and 25 / 03 / 2020 amongst a panel resulting in 1002 parents with children aged 6-18 years old and children aged 6-18 years old. All research conducted adheres to the MRS Codes of Conduct (2019) in the UK and ICC/ESOMAR World Research Guidelines. Opinion Matters is registered with the Information Commissioner's Office and is fully compliant with the General Data Protection Regulation (GDPR) and the Data Protection Act (2018).

Find out more about our work