Skip to main content

Mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio gan dlodi. Ers y 1930au, mae Achub y Plant wedi gweithio ochr yn ochr â chymunedau Cymru i sicrhau bod gan bob plentyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i dyfu, dysgu a ffynnu. Ein gweledigaeth yw Cymru lle mae pob plentyn yn rhydd o dlodi ac yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i dyfu a llwyddo, wedi'i chefnogi gan gymunedau cryf, cysylltiedig sy'n gwrando ar leisiau plant ac yn gweithredu arnynt.

Ein Gwaith yng Nghymru

Er mwyn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau ledled Cymru, gan wrando ar y dystiolaeth ddiweddaraf, ac yn bwysicaf oll, gwrando ar leisiau plant a theuluoedd.

Gweithredu Taliad Plant Cymru – pa lwybrau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd?

Mae dadansoddiad cyfreithiol newydd gan Achub y Plant Cymru a Sefydliad Bevan yn dangos bod Taliad Plant Cymru yn gyraeddadwy yn gyfreithiol ac yn ymarferol o dan bwerau presennol Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y ffaith bod nawdd cymdeithasol wedi'i gadw i San Steffan. Gyda un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gallai Taliad Plant Cymru leihau tlodi plant yn sylweddol, gwella lles plant a darparu manteision economaidd hirdymor. Mae'r papur yn archwilio'r llwybrau cyfreithiol, yr heriau gwleidyddol a'r ystyriaethau ariannu ar gyfer gweithredu cynllun peilot Cynnal arfaethedig Llywodraeth Cymru a'i ehangu'n gynllun cenedlaethol.

“Gwrandewch Fwy Arnom Ni.” Maniffesto i Blant: Etholiad y Senedd 2026

Nid yw tlodi plant yn anochel, mae'n ganlyniad dewisiadau, ac mae etholiad Senedd 2026 yn gyfle i wneud rhai gwahanol. Mae'n gyfle i ddangos bod Cymru yn rhoi plant yn gyntaf.

Mae maniffesto #GwrandewchFwyArnomNi yn adlewyrchu galwadau plant ac yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ei wneud i sicrhau'r dyfodol y mae plant yng Nghymru yn ei haeddu.

Yr Eliffant yn yr Ystafell

Ein Hadroddiadau

Pŵer y Llais

Mae'r prosiect ymchwil hwn yn un ffordd yr ydyn yn ceisio gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae ganddon ni ddiddordeb arbennig ym marn plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau lle mae lefelau uwch o dlodi.

Dros 13 mis o fis Tachwedd 2023 i fis Rhagfyr 2024, fe gychwynnon ni ar brosiect ymchwil lle buon ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc am eu profiadau o fyw yn y cymunedau hyn a'r ffyrdd y mae tlodi yn effeithio arnyn nhw. Fe wnaethon ni siarad â nhw am eu gobeithion a'u dyheadau ar gyfer y dyfodol a'r pethau yr oedden nhw’n meddwl y byddai'n eu helpu neu'n eu rhwystro i gyflawni'r dyheadau hynny. Yn olaf, fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw am eu syniadau ar gyfer newid.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'n hadroddiad rhyngweithiol, a gwyliwch yr animeiddiad gwych a grëwyd ac a leisiwyd gan y bobl ifanc i rannu'r canfyddiadau.

Y Gymraeg a Ni

Canfod mwy

Am fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch ni ar 029 20 396838.