Gweithio gyda theuluoedd, ysgolion a chymunedau
Mae plant yn treulio 80% o’u hamser y tu allan i furiau’r ysgol. Mae cael rhieni sy’n ymgysylltu, yn wybodus ac yn hyderus yn gallu gweud byd o wahaniaeth i fywyd y plentyn.
Er mwyn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, rydym yn gweithio gyda theuluoedd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae ein timau yn gweithio gyda phartneriaid yn y byd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cynnig ystod eang o gynlluniau.