Uh oh, you are using an old web browser that we no longer support. Some of this website's features may not work correctly because of this. Learn about updating to a more modern browser here.

Skip To Content

Merched y Wawr teams up with Save the Children/ Merched y Wawr yn ‘galw’ ar bawb i wneud eu ‘marc’ er mwyn helpu’r plant

The Welsh Women’s organisation Merched y Wawr and Save the Children have teamed up to launch a campaign to help disadvantaged children around the globe and in Wales.

During 2010 and 2011 Merched y Wawr members are calling on everyone to give their old mobile phones or ink cartridges they might have lying around the house. These will then be recycled to raise money to buy basics such as nutritious food, clean water, healthcare, access to education and protection for children around the world.

The women’s organisation will be supporting Save the Children’s ‘EveryOne’ campaign to stop over 8 million children from dying from preventable causes such as diarrhoea, malaria and measles before they reach the age of five. Merched y Wawr is also keen to support the work that Save the Children does here in Wales to ensure that the poorest children in our communities have a fair chance in life.

On average an old ink cartridge is worth a £1.00 and an old mobile phone can collect £5.00 or more when recycled. A single pound is enough to buy 5 packets of a special high-protein and high energy peanut paste used to feed a malnourished child; £5.00 can buy a mosquito net to protect a child from contracting malaria.

The campaign was launched at Merched y Wawr’s residential weekend in Lampeter attended by Save the Children’s Ambassador in Wales, S4C presenter Heledd Cynwal.

Heledd Cynwal said: “As an Ambassador for Save the Children and also a member of Merched y Wawr’s Llandeilo’s Gwawr branch I’m delighted that these two important organisations have teamed up to launch this campaign for the coming year.

“As a mother of three children under the age of five, knowing that so many children die unnecessarily every year is totally unacceptable. As little as £5 can save a life. I hope that everyone will support this campaign and collect as many old mobile phones and ink cartridges as they can and I wish the campaign every success.”

Merched y Wawr President Mererid Jones added: “As an organisation for women here in Wales, Merched y Wawr consists of thousands of mothers, grandmothers and aunties. A child plays a very important part in all of all our lives. We hope that our campaign to collect old mobile phones and ink cartridges can help make a difference. I urge everyone to join us in this campaign – in schools, in the workplace and in factories. Don’t throw them in the bin but rather put hem in Merched y Wawr’s collection boxes and make sure every child is given the best start in life.”

For further information on how you can help, contact Save the Children on 07747 472 677 or Merched y Wawr on 01970 611 661 swyddfa@merchedywawr.com

____________________________________________________________________

Mae mudiad Merched y Wawr ac elusen Achub y Plant wedi lansio ymgyrch arbennig er mwyn helpu’r plant mwyaf difreintiedig ledled y byd a hefyd yma yng Nghymru.

Yn ystod 2010 a 2011 bydd yr aelodau yn annog pawb i gasglu hen ffonau symudol a chetris inc fel y gellir eu hailgylchu i godi arian ar gyfer gwaith yr elusen yn sicrhau fod pob plentyn yn cael pethau sylfaenol fel bwyd maethlon, dŵr glân, gofal iechyd, addysg ac amddiffyniad.

Mae’r Mudiad am gefnogi ‘POB UN’, ymgyrch ryngwladol fwyaf Achub y Plant i geisio atal wyth miliwn o blant dan bump oed rhag marw yn ddiangen o afiechydon y gellir eu trin yn rhwydd ac yn rhad iawn fel dolur-rhydd, malaria a’r frech ieir.  Yn yr un modd maent am gefnogi gwaith yr elusen yma yng Nghymru i sicrhau bod y plant tlotaf yn ein cymdeithas yn cael chwarae teg.

Ar gyfartaledd bydd yr elusen yn derbyn £1.00 am bob cetris inc a £5.00 am bob hen ffôn symudol a fydd yn cael ei ailgylchu.

  • Mae cyn lleied â £1 yn gallu prynu 5 pecyn o bast cnau sy’n cynnwys 500 calori a’r holl faeth sydd ei angen i fwydo plentyn am y dydd.
  • Mae £3.00 yn gallu prynu rhwyd mosgito sy’n atal plentyn rhag dal malaria, yr afiechyd sy’n lladd y nifer fwyaf o blant.
  • Mae £50 yn gallu prynu Cit Cymorth Cyntaf i bentref cyfan yn Affrica.
  • Mae £500 yn prynu pabell sy’n fan chwarae saff i blant sy’n cael eu dal mewn argyfyngau fel y rhai yn Haiti ac ym Mhacistan yn ddiweddar.
  • Mae £5000 yn ddigon i hyffordd dwy fydwraig am flwyddyn.
  • Mae £50,000 yn ddigon i adeiladu dwy ysgol newydd yn Liberia.

Lansiwyd yr ymgyrch yn ystod Penwythnos Preswyl Mudiad Merched y Wawr ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan yng nghwmni’r gyflwynwraig Heledd Cynwal

sydd yn Llysgennad i Achub y Plant.

Meddai Heledd: “Fel Llysgennad i Achub y Plant ac fel aelod o Glwb Gwawr Llandeilo wy’n hynod falch fod y ddau fudiad pwysig wedi dod at ei gilydd eleni er mwyn lansio’r ymgyrch yma.

“Rwy’n fam i dri o blant bach o dan bump oed ac mae clywed yr ystadegau a gwybod bod cymaint o blant bach yn marw yn ddiangen bob blwyddyn yn fy nghyffwrdd i’r byw. Mae cyn lleied â £5 yn gallu mynd ymhell i wneud gwahaniaeth mawr. Felly rwy’n galw ar bawb i fynd ati i roi’r hen ffonau symudol yna sydd wedi eu stwffio i’r drâr a’r cetris inc yna fyddai fel arall yn mynd i’r bin i aelodau Merched y Wawr ac yn dymuno pob llwyddiant i’r ymgyrch.”

Ychwanegodd Mererid Jones, Llywydd Merched y Wawr: “Fel Mudiad i ferched yma yng Nghymru, mae Merched y Wawr yn cwmpasu mamau; neiniau a modrybedd. Mae gennym i gyd gysylltiad â phlant mewn rhyw fodd.

“Mae’r ystadegau am gyflwr plant yma yng Nghymru ac ar draws y byd yn frawychus, ac rydym fel Mudiad drwy ein hymgyrch i gasglu ffonau symudol a chetris inc o beiriannau argraffu, yn gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth. Rwyn cymell pawb i ymuno yn yr ymgyrch – mewn ysgolion, mewn swyddfeydd, mewn ffatrioedd. Peidiwch a thaflu i’r sbwriel ond taflwch i focs Merched y Wawr er mwyn rhoi blwyddyn braf i blentyn bach.”

Am fwy o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu, cysylltwch ag Achub y Plant ar 0790 993 7218  e.haf@savethechildren.org.uk neu Swyddfa Merched y Wawr ar 01970 611 661 swyddfa@merchedywawr.com

Share this article