WALES: ‘New strategy will do little to lift children out of poverty without an action plan’
CARDIFF, 23 January 2024: Responding to the Welsh Government's Child Poverty Strategy, Melanie Simmonds, head of Save the Children Cymru said:
“When we speak to children about their experiences of living in poverty they mention hope – a hope that their future will be different. Tackling child poverty needs to be the Welsh Government’s utmost priority if we are not to lose that aspiration.
“Whilst welcoming the publication of the new Child Poverty Strategy today we feel it lacks a sense of hope for any immediate action for families and practitioners alike and does little to explain how and when changes will be implemented.
“We are extremely disappointed that Ministers have not agreed to a funded action plan with measurable targets which makes it impossible to monitor progress and for those living in poverty to hold the Government to account.
“A lot of our work in Wales focuses on the bringing together of communities to find solutions. In going forward, we will continue to work with the Welsh Government on developing a monitoring framework to ensure that the voices of those experiencing poverty are heard loud and clear.
“Words alone will not give children better futures – they deserve action.”
Ends
‘Ni fydd strategaeth newydd Llywodraeth Cymru yn gwneud fawr ddim i godi plant allan o dlodi heb gynllun cyflawni’ – Achub y Plant Cymru
CAERDYDD, 23 Ionawr 2024 - Wrth ymateb i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru meddai Melanie Simmonds, pennaeth Achub y Plant Cymru:
“Pan rydyn ni’n siarad â phlant am eu profiadau o fyw mewn tlodi maen nhw’n sôn am obaith – gobaith y bydd eu dyfodol yn wahanol. Dylai mynd i’r afael â thlodi plant fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru os nad ydym am golli’r dyhead hwnnw.
“Er ein bod yn croesawu cyhoeddi’r Strategaeth Tlodi Plant newydd heddiw, yr ymdeimlad a gawn yw nad yw’n cynnig fawr o obaith i deuluoedd ac ymarferwyr ac nad yw’n gwneud fawr ddim i egluro sut a phryd y caiff newidiadau eu rhoi ar waith.
“Rydym yn hynod siomedig nad yw’r Gweinidogion wedi cytuno i gyflwyno Cynllun Cyflawni wedi’i ariannu gyda cherrig milltir mesuradwy. Hebddo, mae’r gwaith o fonitro cynnydd a rhoi cyfle i’r rhai sy’n byw mewn tlodi ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn dasg anodd iawn.
“Mae ein gwaith yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddod â chymunedau ynghyd i ddod o hyd i atebion. Wrth fwrw ymlaen, rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu fframwaith fonitro i sicrhau bod lleisiau y rhai sy’n profi effeithiau tlodi yn cael eu clywed yn glir.
“Ni fydd geiriau yn unig yn rhoi gwell dyfodol i blant – maent yn haeddu gweld y geiriau hynny yn cael eu gweithredu.”
Diwedd
Am wybodaeth bellach i’r wasg, cysylltwch gydag Eurgain Haf, Uwch Reolwr y Cyfryngau e.haf@savethechildren.org.uk / 07900214959
Your browser or network settings do not allow features used by this page. Please try a different browser or network.