Uh oh, you are using an old web browser that we no longer support. Some of this website's features may not work correctly because of this. Learn about updating to a more modern browser here.

Skip To Content

Somerset: Ymdrech cymuned i ymateb i’r llifogydd

(English here)

Fe deithiais ddoe o’r swyddfa yng Nghaerdydd i Wlad yr Haf i weld y gwaith mae Canolfan Ddosbarthu Bridgwater yn ei wneud. Mae’r Ganolfan wedi sefydlu gan drigolion lleol ar gyfer y gymuned gafodd eu heffeithio mor ddifrifol gan y gorlif dŵr diweddar.Delivery of gifts in kind from Save the Children Corporate Partners

Roedd y warws yn y parc busnes yn enfawr ac unwaith i mewn roedd graddfa yr holl roddion yn anhygoel.

Daeth un dyn o Fryste atai i sgwrsio, roedd o wedi rhoi bocsus o esgidiau cerdded o’i siop ei hunan yn rhodd ar ddechrau’r wythnos ac wedi dychwelyd i helpu’r diwrnod canlynol.

Roedd yna fwrlwm a threfn, nifer o drigolion lleol wedi dod yno i helpu didoli’r dillad ar teganau a’r bwyd a’r offer glendid. Pawb yna i helpu’r ardal a’i phobl.

Fe ges i sgwrs gyda gwraig ifanc, ei mam a’i mam hithau, tair cenhedlaeth o ferched bellach yn byw mewn un tŷ gwyliau dros dro. Byddai’n rhaid iddyn nhw hel eu pac unwaith eto ar ddiwedd mis Ebrill wrth i dymor y ‘gwyliau’ ddechrau.

“Mae hyn wedi ein llorio ni,”medde Bryony wrth afael yn dynn yn Elsa ei merch 3 oed.

“Dyw Elsa ddim yn deall pam na allith hi fynd adref i’w chartref. Mae hi wedi blino ar fyw yn y tŷ gwyliau, mae hi jest isio mynd adref nawr. Mae fy mam gyda ni hefyd ac mae hi’n gorfod rhannu gwely gyda fy mab chewch oed. Mae’n cartref ni o dan ddŵr, dwy droedfedd o ddŵr, dyna’r oll sydd iw weld, milltiroedd o ddŵr.”

Daeth Carol i’r Ganolfan y tro cyntaf ar y penwythnos i helpu unrhyw ffordd y gallai;

“Mae gen i wendid cefn felly dw i’n methu cario y bagiau tywod na symyd y pethau mawr trwm sydd yma, ond mae gen i bâr o ddwylo ac fe allai fod o help mewn ffyrdd eraill. Os ydw i mond wedi rhoi pâr o wellingtons allan i rhywun y diwrnod hwnnw yna mi ydw i o leiaf wedi bod yn gymorth i un person sydd nawr yn berchen ar bâr o wellingtons.

Dwi hefyd yn gwrando ar bobol sydd wedi cael eu heffeithio mor ddifrifol gan hyn. Mae’r ffaith ei bod nhw’n gallu rhannu eu cwyn a rhannu eu straen yn gymorth.

Mae’r haelioni mae pobol a chwmniau wedi ei ddangos yng nghanol hyn i gyd yn rhyfeddol, mae yna lorïau anferth wedi bod yn dod yma pob dydd gyda phob math o roddion i’r rhai sydd yn dioddef yma.”

Gyda dros 5,800 o adeiladau wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ers dechrau mis Rhagfyr y llynedd, mae dros fil o gartrefi wedi cael eu gadael yn wag ar hyd afon Tafwys.

Roedd Achub y Plant yn cyflwyno rhoddion o garedigrwydd i’r ganolfan yr wythnos hon ymysg eraill ac mae yna obeithion i gydweithio gyda’r adferiad tymor hir hefyd.

Roedd Tracey a Sandra yn y ganolfan ar ddiwedd y dydd yn casglu cyflenwadau ar gyfer bwydo’r gweithwyr oedd yn pwmpio’r dŵr yn yr ardaloedd yn drwm o dan ddŵr.

“Welo ni’r cyfan a meddwl bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth i helpu, ryda ni wedi bod yn bwydo’r gweithwyr ers tair wythnos. Pob dydd Llun ryda ni’n dod yma i gasglu cyflenwadau ac mae gen i sosej rôls yn y car sydd yn dal yn gynnes ar eu cyfer nhw unwaith adawn ni fama!

Y gwir yw gall hyn mor rhwydd fod yn ti neu fi, dyna’r gwirionedd am y sefyllfa a dyna pam roedd yn rhaid i ni helpu.”

Share this article