Cymraeg
Mae 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae byw mewn tlodi yn effeithio’n ddramatig ar gyfleoedd plentyn mewn bywyd. Gall plant tlotach ddisgwyl cael llai o gymwysterau, swyddi ar gyflog is a bywydau byrrach na’r plant mwy cyfoethog yn eu dosbarthiadau. Dylai pob plentyn gael cyfle o’r dechrau un.
Mae tlodi yn effeithio ar gyfleoedd plant mewn bywyd ym mhob cam o’u haddysg. Ar draws Cymru, mae bwlch cyrhaeddiad o 34% o ran ‘TGAU’ rhwng plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim a’r rheini nad oes ganddynt yr hawl i hynny. Mae hynny’n golygu bod tlodi yn cyfyngu ar botensial plentyn – mae angen newid hyn.
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus baratoi a chyhoeddi strategaethau ar gyfer cael gwared â thlodi ymhlith plant yng Nghymru. Rydym yn cefnogi’r broses hon drwy godi ymwybyddiaeth o dlodi ymhlith plant, dylanwadu ar bolisi’r llywodraeth a dod o hyd i atebion a fydd yn cyrraedd targed 2020 o gael gwared ar dlodi ymhlith plant.
Mae maniffesto Achub y Plant ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant Cyfle I Bob Plentyn O’r Dechrau Un.
Ein rhaglenni
Mae rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd yn cefnogi rhieni i wella dysgu a datblygiad eu plant gartref, er mwyn iddynt allu cyrraedd eu potensial llawn yn yr ysgol. Rydym yn treialu’r rhaglen hon mewn partneriaeth ag Awdurdod Lleol Caerffili.
Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed a’u teuluoedd mewn cymunedau dan anfantais yng Nghymru. Mae Yn Fy Iard- Gefn yn gweithio gyda phobl ifanc i’w helpu i ddysgu am hawliau plant a thlodi ymhlith plant yn y DU ac i ddatblygu eu syniadau eu hunain am sut mae goresgyn tlodi yn eu hardal leol.
Mae ein gwefan Datrys Tlodi Plant - Cymru a ddatblygwyd gan Achub y Plant ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru [http://www.wlga.gov.uk/] a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynnig cymorth a chyngor i bob corff cyhoeddus ynghylch sut mae mynd i’r afael â thlodi ymhlith plant yn eu hardaloedd.
Mae’r prosiect Y Daith Ymlaen yn gweithio gyda sipsiwn a theithwyr ifanc, gan roi cymorth i ddatblygu fforymau ieuenctid er mwyn iddynt gael dweud eu dweud am faterion sy’n berthnasol iddynt hwy.
Ein nod yw sicrhau bod plant yn cyfranogi’n llawn ac yn weithredol yn y penderfyniadau sy’n siapio eu bywydau, drwy redeg Uned Cyfranogaeth ar ran Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru. Mae’r uned yn gweithio i wella cyflawniadau, dyheadau a sgiliau’r bobl ifanc fwyaf difreintiedig ac fe’i cefnogir gan Gronfa Cydgyfeirio Ewrop.
Hawliau plant
Rydym wedi ymroi i sicrhau nad yw hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu hanwybyddu. Rydym yn cynhyrchu adnoddau ac yn darparu hyfforddiant er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau plant, gan gynnwys gwefan ar gyfer Cymru gyfan.,[ send link once live].
Rydym yn cadeirio Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar gyfer Cymru, sy’n dal y llywodraeth yn atebol am faterion hawliau plant, ac yn darparu cydlyniad strategol ar gyfer gwaith ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru.

Cysylltwch â ni
Rhaglen Cymru
Tŷ Ffenics,
3ydd Llawr,
8 Heol y Gadeirlan,
CAERDYDD
CF11 9LJ
Ffôn: 029 2039 6838
Ffacs: 029 2022 7797
E-bost: walesinfo@savethechildren.org.uk
Codi Arian Cymunedol
Tŷ Ffenics,
3ydd Llawr,
8 Heol y Gadeirlan,
CAERDYDD
CF11 9LJ
Ffôn: 029 20 345224
Ffacs: 029 2022 7797
E-bost: j.evans@savethechildren.org.uk
Darllenwch ein hymateb i gost gynyddol gofal plant a thlodi plant yng Nghymru