• Rhaglen Cymru: cyfranogi
  • -->

    Rhaglen Cymru: cyfranogi

    Mae gan blant yr hawl i gyfranogi mewn materion sy’n effeithio’u bywydau yn uniongyrchol.

     

     

    Yn ogystal, y mae Achub y Plant yn cynnal Uned Cyfranogaeth ar ran Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru

    Beth yw'r Uned Cyfranogaeth?

    Mae'r Uned Cyfranogaeth yn anelu at gynyddu a hyrwyddo cyfranogaeth lawn a gweithgar gan blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau drwy adeiladu capasiti gyda mudiadau a gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau. Gweler taflen yr Uned Cyfranogaeth a'r Consortiwm (PDF 849KB)

    Pwy yw'r Uned Cyfranogaeth?

    Mae'r Uned yn cynnwys 6 aelod o staff ac fe'i hariennir gan Grant Cymorth i Blant a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Cysylltu: participationunit@savethechildren.org.uk

    Beth mae'r Uned Cyfranogaeth yn ei wneud?

    Daw meysydd gwaith yr Uned Cyfranogaeth dan 6 o Themâu

    1. Safonau a dyfarnu Nodau Barcud
    2. Hyfforddiant
    3. Gwybodaeth ac Arfer Da
    4. Cynnwys Plant a Phobl Ifanc
    5. Cynhwysiant
    6. Monitro, Gwerthuso ac Asesu

    Safonau
    • 'egwyddorion craidd' cyffredin cytunedig ynglyn â chyfranogaeth, mae'r Consortiwm Cyfranogaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru a'r Uned Cyfranogaeth wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Safonau Cenedlaethol (PDF 127KB) ar gyfer cyfranogaeth plant a phobl ifanc h.y. safonau ansawdd y gellir eu defnyddio i bennu meincnodau a darparu cyfrwng ar gyfer archwilio ac asesu ymarfer cyfranogol.
    • Mae'r Uned Cyfranogaeth wedi datblygu pecyn hunanasesu (PDF 1080KB) gyd-fynd â'r Safonau Cenedlaethol, sy'n pwysleisio pwysigrwydd arfer da a mudiadau'n dechrau mesur eu perfformiad eu hunain yn erbyn y Safonau Cenedlaethol.
    Hyfforddiant
    • Mae'r Uned wedi mapio hyfforddiant cyfranogaeth ar draws Cymru ac mae ganddi Rhestr Hyfforddwyr Cyfranogaeth. Y mae wedi cytuno ar egwyddorion craidd hyfforddiant cyfranogaeth ac yn datblygu cwrs hyfforddi'r hyfforddwyr. Mae hefyd wedi datblygu tîm hyfforddi a arweinir gan bobl ifanc, o'r enw Llais Pobl Ifanc, sy'n cael ei ariannu i rhoi hyfforddiant i oedolion ar draws Cymru.
    • Mae'r Uned wedi bod yn cynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu a threialu hyfforddiant ar gynghorau ysgol a chyfranogaeth ym maes addysg.
    Gwybodaeth ac Arfer Da
    • Cynhaliodd yr Uned ymarfer mapio Cymru-gyfan ar gyfranogaeth plant a phobl ifanc gydag asiantaethau drwy holiadur, a phlant a phobl ifanc drwy weithdai. Cwblhawyd yr ymarferion mapio hyn gyda chyrff Cyhoeddus (gweler adroddiad Mapio Cyfranogaeth (PDF 805KB), Adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru (gweler Mapio Cyfranogaeth: Adrannau LlCC (PDF 9KB) a chyda plant a phobl ifanc. 
    • Mae'r Uned wedi cynhyrchu Canllawiau Arferion Da ar gyfranogaeth plant a phobl ifanc ac y mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ddatblygu canllawiau newydd.
    • Mae'r Uned yn cynnal Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogaeth Cymru (RhGCC) sy'n wasanaeth i weithwyr a mudiadau sydd â diddordeb neu sy'n mynd ati i hyrwyddo cyfranogiad yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
    Cynnwys Plant a Phobl Ifanc
    • Mae'r Uned wedi cwblhau gwaith uniongyrchol gyda phobl ifanc mewn colegau addysg bellach a mudiadau pobl ifanc eraill i oleuo'i gwaith ac adnabod cyfleoedd i bob ifanc ymwneud â phrosiectau yn y dyfodol.
    • Mae'r Uned hefyd wedi sefydlu cysylltiadau a chefnogi sefydlu gorsaf radio i bobl ifanc yng Nghastell-nedd o'r enw Afan FM.  
    Cynhwysiant
    • Mae'r Uned yn roi sylw i'r angen ar gyfer cynnwys grwpiau penodol o blant a phobl ifanc yng Nghymru mewn penderfyniadau, ac y mae'n gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o grwpiau i ganolbwyntio ar hyn. Bu'r Uned yn gweithio'n benodol gyda mudiad cenedlaethol Cymraeg ei iaith o'r enw'r 'Urdd' ac y mae wedi cynhyrchu DVD ("Yn Blwmp ac yn Blaen").
    • Mae'r Uned hefyd wedi bod yn cefnogi datblygiad cyfranogaeth plant 0-10 oed mewn penderfyniadau, ac y mae'n ymdrechu i sicrhau bod adnoddau, mewnol ac allanol yn fwy cynhwysol.
    Monitro, Gwerthuso ac Asesu
    • Y mae'r Uned yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i datblygu Arf Asesu Effaith a fydd yn mesur effaith a manteision cyfranogaeth plant a phobl ifanc ar draws Cymru.

    For more information on the Participation Unit and its work contact- participationunit@savethechildren.org.uk