Rhaglen Cymru: tlodi plant
Mae mwy na 160,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn teuluoedd ble mae pob penderfyniad yn un anodd. Ydych chi'n prynu bwyd neu ddillad? Setlo'r bil neu dalu am drip ysgol?
Mae tlodi yn niweidio plant yn effeithio ar eu cyfleoedd mewn bywyd. Gall plant tlawd ddisgwyl llai o gymwysterau, swyddi sy'n talu'n is, mwy o broblemau iechyd, a bywydau byrrach na phlant eraill.
Ry'n ni'n credu bod angen rhoi sylw brys i anghenion y plant tlotaf yng Nghymru fel eu bod nhw'n gallu fforddio'r pethau sylfaenol, angenrheidiol, ac elwa ar yr un cyfleoedd â phlant eraill.
Er ein bod ni'n cymeradwyo ymrwymiad llywodraeth Prydain i ddileu tlodi plant erbyn 2020, ry'n ni'n credu y bydd yn methu â chyrraedd y targed hwn nes bod ganddi strategaeth i helpu'r plant tlotaf. Ry'n ni'n galw ar y Canghellor i gynnig mwy o adnoddau ar gyfer plant tlotaf Prydain, gan gynnwys grantiau tymhorol i gefnogi teuluoedd yn ystod y gaeaf a'r haf - adegau drytaf y flwyddyn i rieni.
- Tlodi Plant (PDF 115KB)

