Rhagarweiniad
Dechreuodd Achub y Plant weithio yng Nghymru yn y 1920au, yn helpu teuluoedd mewn ardaloedd glofaol tlawd. Yn y 1930au sefydlon ni ysgol feithrin cyntaf Cymru, ym Merthyr Tudful. Erbyn hyn mae ein gwaith yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â thlodi plant.
Mae gan Gymru rai o'r lefelau gwaethaf o dlodi plant yn y byd diwydiannol. Mae mwy na 160,000 o blant - o leiaf un o bob pedwar - yn byw mewn tlodi ac mae bron i un o bob deg yn byw mewn tlodi difrifol. Mae hynny'n warth o ystyried bod Prydain yn un o bedair gwlad fwyaf cyfoethog y byd.
Gall plant tlawd ddisgwyl llai o gymwysterau, swyddi sy'n talu'n is, mwy o broblemau iechyd a bywydau byrrach na phlant eraill. Felly rydyn ni'n gweithio yng Nghymru, fel yng ngweddill y byd, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dyfodol maen nhw'n eu haeddu.
Dyma'n blaenoriaethau allweddol yng Nghymru:
- rhoi terfyn ar dlodi plant
- gwella addysg
- mynd i'r afael â chamwahaniaethu
- sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed
Rydyn ni hefyd yn cynnull Grwp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru, cynghrair genedlaethol o asiantaethau syn monitro ac yn hyrwyddo gweithredu'r Confensiwn yn llawn.
Yn 2006 cyhoeddodd y Grwp adroddiad ar gynnydd ar hawliau plant: Cywiro'r Cam: Realiti hawliau plant yng Nghymru. Nawr mae'r Grwp yn gweithio ar Adroddiad Amgen Cymru i'w gyflwyno i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ym mis Hydref 2007.
Rydyn ni'n credu bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gyfranogi yn holl agweddau cymdeithas, felly mae plant yn chwarae rhan yn ein gwaith ymchwil, polisi ac ymgyrchu yng Nghymru.
Mae ein gwaith yng Nghymru yn cael ei gefnogi gan rwydwaith o gefnogwyr corfforaethol, pobl sy'n codi arian, gwirfoddolwyr mewn siopau, a siaradwyr.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru
Rydyn ni hefyd yn cynnull Grwp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru, cynghrair genedlaethol o asiantaethau sy'n monitro ac yn hyrwyddo gweithredu'r Confensiwn yn llawn.
Yn 2006 cyhoeddodd y Grwp adroddiad ar gynnydd hawliau plant, Cywiro'r cam: realiti hawliau plant yng Nghymru (PDF 497KB).
Lansiodd Achub y Plant a Grwp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn adroddiad amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru, Aros, edrych, gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru (PDF 1.4MB) a fersiwn cryno o'r adroddiad ar gyfer pobl ifanc ar 20fed Tachwedd 2007 sef Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Plant.
Cyflwynir yr adroddiadau hyn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mis Mawrth 2008 fel rhan o broses a.
- Cywiro'r Cam: Realiti hawliau plant yng Nghymru - Crynodeb (PDF 3MB)
- Cywiro'r Cam: Realiti hawliau plant yng Nghymru - Full report (PDF 497KB)
- Aros, edrych, gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru (PDF 1.4MB)
- Aros, edrych, gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru - Summary (PDF 5MB)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn - Briefing (PDF 163KB)
Beth ydym yn ei wneud
- darllenwch fwy am ein gwaith yng Nghymru (PDF 945KB)
- darllenwch ein cylchlythyr diweddaraf (PDF 226KB)
Straeon newyddion o Gymru
- Friday 21 November 2008 Elusennau Cymru yn lansio apêl ar y cyd i helpu’r sefyllfa yn y Congo
- Mae apêl yn galw ar bobl Cymru i roi cymorth i’r bobl sydd wedi eu dal yn yr argyfwng yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi ei lansio yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
- Tuesday 21 October 2008 Y dywysoges Anne yn ymweld â siop Achub Y Plant yng Nghaerdydd
- Yn ddiweddar fel ymwelodd y Dywysoges Anne â siop elusen Achub y Plant yn Albany Rd i ddiolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith diflino.
- Thursday 18 September 2008 Gwefan newydd i helpu plant sy’n byw mewn tlodi
- Mae gwefan newydd arloesol i helpu cynghorau i godi plant uwchlaw tlodi wedi ei lansio gan Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
- Friday 29 August 2008 Sioe Deithiol Uned Gyfranogaeth Achub Y Plant
- Dros y tair wythnos nesaf bydd Uned Gyfranogaeth Achub y Plant ar daith gan ymweld â nifer o golegau o gwmpas Cymru.
- Friday 1 August 2008 Dewch i gwrdd â Plwmpyn y gneuen ar faes yr Eisteddfod
- Gobaith Plwmpyn y gneuen yw ysbrydoli rhai o’r 170,000 o ymwelwyr â’r Eisteddfod i ddysgu mwy am ymgyrch ddiweddaraf Achub y Plant sy’n ceiso atal 10 miliwn o blant rhag marw cyn iddynt gyrraedd eu pumed pen-blwydd.
- Wednesday 16 July 2008 1 o bob 4 rhiant mewn tlodi yn methu fforddio gweithio
- Datgela arolwg newydd gan Achub y Plant bod mwy nag un o bob 4 rhiant ar incwm isel wedi methu â chael swydd neu aros mewn gwaith oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio talu am ofal plant.

