Cymru

Mae 200,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae byw mewn tlodi yn cael effaith sylweddol ar gyfleoedd plentyn mewn bywyd. Gall plant tlotach ddisgwyl cael llai o gymwysterau, swyddi sy’n talu llai a bywydau byrrach na’u cyfoedion mwy cyfoethog. Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei eni heb gyfle.

Yr her

Mae traean o’r holl blant yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan dlodi, yn mynd heb hanfodion neu’n byw mewn cartrefi sydd yn oer ac yn llaith.

Mae bron 15% yn byw mewn tlodi difrifol — cyfran uchaf holl wledydd y DU.

Yn y cymoedd a mannau eraill o Gymru lle mae diwydiant a gweithgynhyrchu wedi dod i ben, mae tlodi yn sylweddol ac yn hirsefydlog.

Mae toriadau newydd i swyddi a chyllidebau yn cynyddu’r bygythiad i les plant.

O ystyried hyn, a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni ei hymrwymiad uchelgeisiol i ddileu tlodi plant? Mae’r ddeddfwriaeth wedi ei sefydlu, ond bellach mae’n  amser troi’r ymrwymiad hwn yn weithredu.

Eincyflawniadau: Confensiwn y CenhedloeddUnedig

Rydym yn ymfalchïo yn y faith ein bod wedi helpu i greu darn pwysig o ddeddfwriaeth.

Yn dilyn blynyddoedd o waith gennym ni a ’Grwp Monitro  Cymru Confensiwn y Cenhedloedd Unedigar Hawliau’r Plentyn, mae gan weinidogion Cymru bellach ddyletswydd gyfreithiol i roi ystyriaeth ddyledus i hawliau a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedigar Hawliau’r Plentyn.

O hyn ymlaen, bydd y confensiwn yn rhan o gyfraith ddomestig, ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru ddangos sut mae’n effeithio ar hawliau plant.

Eincyflawniadau: FAST

Gall dechrau gwael yn yr ysgol effeithio ar blant am weddill eu bywydau. Yn 2010, cafodd Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST) ei lansio, sef rhaglen ymyrraeth gyflym dros wyth wythnos mewn ysgolion yn rhai o gymunedau tlotaf Cymru. Ac mae’n gweithio!

Yn ein dau gynllun peilot cyntaf yng Nghaerffili, canfuwyd bod plant yn ymddwyn yn well, yn perfformio’n well yn academaidd, a bod euperthynasâ'igilyddyn well gartref.

Dywedodd rhieni eu bod yn fwy hyderus ynglŷn â helpu eu plant yn yr ysgol, ac rydym wedi helpu pobl ifanc a phlant i gynnig eu hatebion eu hunain i dlodi.

Cyfarfu llysgenhadon ifanc o’r rhaglen datblygu cymunedol Yn Fy Iard Gefn dros 100 o wneuthurwyr penderfyniadau yn ein Huwchgynhadledd Gychwynnol ar Dlodi Plant ym mis Tachwedd  2010 gan ddweud wrthynt am y prosiectau y maent wedi eu cynnal yn eu cymunedau ifynd i’r afael â thlodi.

“Fe wnaethom agor eu llygaid,” dywedodd un person ifanc.

Gyda’n cymorth ni, creodd sipsiwn a theithwyr ifanc wefan newydd ragorol ar gyfer sipsiwn a theithwyr eraill ac ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gyda nhw.

Bwyta, Cysgu, Dysgu, Chwarae!

Cynllun grant argyfwng yw’r rhaglen Bwyta, Cysgu, Dysgu, Chwarae! a lansiwyd gan Achub y Plant ym mis Hydref 2011 sy’n ymateb i deuluoedd gyda phlentyn ifanc lle mae angen materol difrifol yn y cartref.

Mae’n darparu nwyddau hanfodol ar gyfer y cartref yn uniongyrchol i deuluoedd, fel gwely plentyn, popty neu lyfrau addysgol a theganau.

Mae teuluoedd hefyd yn cael gwiriad hawl i ffudd-daliadau er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau lles y mae ganddynt yr hawl iddynt.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Wrathall, Bwyta, Cysgu, Dysgu, Chwarae! — 029 396838/r.wrathall@savethechildren.org.uk

Yr hyn sydd ei angen ar frys nawr

Ar bapur, bydd y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) yn sicrhau bod pob corff cyhoeddus yn datblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu ar dlodi plant.

Trwy ein prosiect Datrys Tlodi Plant rydym yn helpu’r sector cyhoeddus i weithredu’r darn hanfodol hwn o ddeddfwriaeth. Darllenwch fwy am ein hagenda ar gyfer gweithredu.

Mae ein Huned Gyfranogiad — a gynhelir ar ran Consortiwm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cymru — wedi sicrhau bod cyfranogiad plant a phobl ifanc yn rhan annatod o Fesur Plant a Theuluoedd.

Trwy ymarfer eu hawl i gymryd rhan, bydd gwasanaethau yn fwy hygyrch i’r plant a’r bobl ifanc tlotaf a bydd ganddynt lais yn y ffordd y gall y gwasanaethau hynny fodloni eu hanghenion yn well.

Canfodmwy

Cysylltwch â ni

RhaglenCymru

3ydd Llawr,
Phoenix House,
8 Heol y Gadeirlan,
CAERDYDD
CF11 9LJ

Ffôn: 029 20 345224
Ffacs: 029 2022 7797
Ebost: walesinfo@savethechildren.org.uk

Codi Arian yn y Gymuned

Yn y cyfeiriaduchod

Ffôn: 029 2039 6838
Ffacs: 029 2022 7797
Ebost:  j.evans@savethechildren.org.uk